Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod sylw’r Pwyllgor ynglŷn ag effaith ôl-weithredol y Rheoliadau hyn ac yn croesawu’r cyfle i egluro.
Mae osgoi effaith ôl-weithredol yn y maes hwn yn heriol o’i hanfod, gan ystyried y cylch cyllidebol sy’n cael ei arwain gan broses y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (“y Corff Adolygu”) yn hytrach na’r drefn ddeddfwriaethol. Mae codiadau blynyddol ar gyfer y sector yn cael eu pennu drwy negodiadau teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, ac Optometreg Cymru ac maent yn ystyried argymhellion y Corff Adolygu a gyhoeddir ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol. Er bod y dull hwn yn sicrhau tegwch ar draws proffesiynau gofal sylfaenol a chymunedol, mae’n golygu bod negodiadau’n dod i ben ar ôl 1 Ebrill, gan arwain at yr angen i gymhwyso’n ôl-weithredol er mwyn cynnal tegwch.
Yn unol â gwasanaethau contractwyr eraill, mae’n hanfodol bod y cynnydd y cytunir arno yn gymwys o 1 Ebrill ymlaen er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb ar draws yr holl gontractwyr gofal sylfaenol. Mae’r Corff Adolygu yn gorff cwbl annibynnol nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad drosto. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau yn rheolaidd ac archwilio unrhyw gyfleoedd i wella amseru a lleihau’r angen am effaith ôl-weithredol pan fo hynny’n bosibl, gan hefyd gynnal tegwch a chysondeb ar draws yr holl wasanaethau contractwyr.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod rhaid i’r diffiniad o “the Act” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”), drwy weithrediad paragraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006, gael ei gymryd i olygu Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“DGIGC 2006”). O ganlyniad, byddai unrhyw gyfeiriad at “the Act” wedyn, drwy weithrediad y ddarpariaeth drosiannol honno, yn gyfeiriad at DGIGC 2006 ac felly, mae’n fwy tebygol na pheidio y byddai’r cyfeiriad at “the 2006 Act” yn cael ei ddarllen fel cyfeiriad at DGIGC 2006 yn hytrach nag unrhyw Ddeddf arall o 2006. Ymhellach, nid yw’r diffiniad o “the 2006 Act” yn DGIGC 2006 y mae’r Pwyllgor yn cyfeirio ato ond yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth gychwyn yn adran 208 o’r Ddeddf honno sydd, ym marn Llywodraeth Cymru, yn cefnogi’r dehongliad uchod.
Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am dynnu ein sylw at hyn, a bydd y Pwyllgor yn nodi bod Atodlen 1 i Reoliadau 1997 yn ddarostyngedig i ddiwygiadau blynyddol. O ystyried y cyfle hwnnw, byddwn yn ceisio gwneud diwygiad yn hyn o beth pan ddaw’r cyfle nesaf hwnnw.